
Lles yn y Gwaith: Deall y berthynas rhwng iechyd, lles a gwaith
Newyddion
Datblygu Cam 3: Yn dilyn llwyddiant Cam 2, mae bellach yn bosibl dechrau datblygu Cam 3. Bydd Cam 3 yn cynnwys datblygu ymyriadau wedi eu hanelu at wella ansawdd ein bywydau gwaith. Bydd y rhain yn seiliedig ar dystiolaeth o arferion gorau presennol wedi eu casglu o lenyddiaeth wyddonol, ac ar ganfyddiadau Camau 1 a 2. Byddwn yn canolbwyntio ar ymyriadau a fydd yn ei gwneud yn haws i bobl aros yn y gwaith neu ddychwelyd i’r gwaith os byddant wedi bod i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch, gan y gall colli gwaith oherwydd salwch fod yn andwyol i iechyd ac ansawdd bywyd, yn ogystal â’n cyfrif banc.
Cam 2 wedi’i gwblhau: Roedd Cam 2 y fenter Lles yn y Gwaith yn cynnwys rhaglen ymchwil a oedd yn ymchwilio i’r berthynas rhwng iechyd, lles a gwaith gyda dau brif gyflogwr yn ardal Merthyr Tudful: Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr. Drwy’r gwaith ymchwil hwn, rydym wedi gallu gwella ein dealltwriaeth o’r berthynas gymhleth rhwng iechyd, lles a gwaith, ac edrych ar y math o ymyriadau a allai fod yn ddefnyddiol er mwyn gwella ansawdd ein bywydau gwaith. Disgrifir rhai o ganfyddiadau allweddol Cam 2 yma a gellir gweld yr adroddiad llawn drwy glicio yma.
Cam 2 - Diolch am gymryd rhan: Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb sy’n gweithio yn Ymddiriedaeth GIG Gogledd Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a gymerodd ran yng Ngham 2 y prosiect Lles yn y Gwaith. Mae llawer ohonoch wedi cwblhau holiadur, wedi ymuno â grwpiau ffocws, neu wedi cael eich cyfweld gan ein tîm ymchwil, ac yr ydym yn ddiolchgar iawn am eich cyfraniad. Ni fyddem wedi gallu cwblhau’r astudiaeth hon heb eich help. Llawer o ddiolch i bawb ohonoch!
Cam 2: Cymryd Rhan: Rydyn ni'n gwahodd aelodau o staff yn Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i gymryd rhan yn yr ymchwil hon ar hyn o bryd. Mae sawl ffordd y gallwch chi gymryd rhan, gan gynnwys cymryd rhan mewn grwp ffocws neu cyfweliad unigol i rhoi eich barn am iechyd a lles yn y gweithle.
Cam 2 - Lawnsiad: Cafodd Cam 2 y prosiect Lles yn y Gwaith ei lansio ar 30 Ionawr 2007 yn y Ganolfan Dinesig yn Merthyr Tudful. Cafodd yr achlysur ei fynychu gan rhyw 60 o bobl, a cafodd ei gynnal gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Fe wnaeth yr Athro Chris Main (Prifysgol Keele) a'r Athro Ceri Phillips (Prifysgol Cymru Abertawe) rhoi cyflwyniad am y prosiect, ei cyd-destyn, a beth ei fydd yn golygu i Merthyr Tuful a tu hwnt.
Roedd yna stondynau gan Bwrdd Iechyd Lleol Merthyr Tudful, gyda profion pwysedd gwaed yn cael eu rhoi, ac Aura Complementary Therapies ag oedd yn rhoi cyfle i bobl ymlacio efo ychydig o adweitheg, yn ogystal a'r Prosiect Hybu Iechyd Mewn Gweithleoedd Bach, Drugaid, ag adran Hamdden a Chwaraeon Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Roedd yr ymateb i'r achlysur yn gadarnhaol, yn enwedig ynglyng â'r ffordd mae'r prosiect yn tori tir newydd o rhan dod a gwahanol asiantaethau ynghyd i geisio deall mwy am a gwella iechyd a lles yn y gweithle. Yn ogystal a hyn, roedd llawer o ddiddordeb yn y potensial i ymestyn y gwaith i ardalau a gweithloedd arall.
![]()
Y tîm ymchwil Cyfrannwyr i'r lawnsiadCam 1 - Cwblhawyd. Roedd Cam 1 Lles yn y Gwaith yn cynnwys gosod cyd-destun cymdeithasol-economaidd iechyd a gwaith ym Merthyr Tudful. Cwblhawyd yr adroddiad terfynol ‘Profiling the community in Merthyr Tydfil: problems, challenges and opportunities’, ym mis Mawrth 2006. Cliciwch yma i weld yr adroddiad llawn.



