
Lles yn y Gwaith: Deall y berthynas rhwng iechyd, lles a gwaith
Cysylltiadau
Islaw, mae rhai cysylltiadau defnyddiol:
Mae Galw Iechyd Cymru ar flaen y gad o ran gofal iechyd 24 awr y dydd. Mae’n darparu gwasanaethau gwybodaeth dros y ffôn a thros yr e-bost i’r cyhoedd drwy gydol y dydd a’r nos. Mae’n rhoi gwybodaeth a chyngor am iechyd, salwch a gwasanaethau iechyd i alluogi cleifion i wneud penderfyniadau am eu gofal iechyd a gofal iechyd eu teuluoedd. I gael mynediad i Galw Iechyd Cymru cliciwch yma.
Un o asiantaethau’r Llywodraeth sy’n helpu pobl o oedran gweithio i symud o fudd-dal i waith ac sy’n helpu cyflogwyr i lenwi swyddi gwag yw Canolfan Byd Gwaith. I edrych ar eu gwefan cliciwch yma.
Mae’r gwasanaeth Cyngor ar Bopeth yn helpu pobl i ddatrys eu problemau cyfreithiol, ariannol a phroblemau eraill drwy ddarparu gwybodaeth a chyngor am ddim o dros 3,000 o ffynonellau, a thrwy ddylanwadu ar lunwyr polisïau. Cliciwch yma i gael mynediad i’w gwefan.
Gwasanaeth am ddim yw Cyswllt Iechyd yn y Gweithle/Workplace Health Connect a sefydlwyd mewn partneriaeth â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Rydym yn darparu cyngor ymarferol, am ddim ar iechyd a diogelwch yn y gwaith, drwy weithio gyda rheolwyr a staff. Ein nod yw trosglwyddo gwybodaeth a sgiliau yn uniongyrchol i gwmnïau er mwyn iddynt allu mynd i’r afael â phroblemau eu hunain yn y dyfodol. Cliciwch here i ymweld â’u gwefan.
Mae barn arbenigwyr ynghylch sut i reoli ac atal poen cefn a gwella ohono wedi newid. Bydd Cefnau Cymru yn adeiladu ar y gwaith yn yr Alban ac Awstralia sydd wedi cyfleu’n llwyddiannus negeseuon allweddol ynghylch parhau i fod yn weithgar er mwyn rheoli poen cefn. I gael rhagor o wybodaeth cliciwch yma.
Ymwadiad: Gobeithio y bydd y gwefannau hyn yn ddefnyddiol i chi. Fodd bynnag, mae’r gwefannau hyn yn annibynnol ac ni allwn gymryd cyfrifoldeb dros eu cynnwys.

