
Lles yn y Gwaith: Deall y berthynas rhwng iechyd, lles a gwaith
Y Cynnydd Hyd Yma
Caiff y rhaglen ymchwil Lles yn y Gwaith ei chwblhau mewn tri cham gwahanol:
Cam 1: Gosod y Cyd-destun
Roedd Cam 1 y fenter Lles yn y Gwaith yn golygu gosod cyd-destun economaidd-gymdeithasol iechyd a gwaith ym Merthyr Tudful ac fe’i cwblhawyd ym mis Mawrth 2006. I weld yr adroddiad terfynol ‘Profiling the community in Merthyr Tydfil: problems, challenges and opportunities’, cliciwch yma.
Cam 2: Ymchwil Cychwynnol
Ymchwiliodd Cam 2 i’r berthynas rhwng iechyd, lles a gwaith gyda dau brif gyflogwr yn ardal Merthyr Tudful: Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Roedd yr ymchwil yn cynnwys:
- Astudiaeth gynhwysfawr i edrych ar farn pobl am eu swyddi, pa mor iach a hapus y mae pob yn teimlo yn gyffredinol, pa fath o broblemau iechyd sydd gan bobl a sut y mae’r rhain yn effeithio arnynt yn y gwaith. Cymerodd 573 o bobl ran yn yr arolwg a gynhaliwyd dros gyfnod o 12 mis er mwyn i ni allu edrych ar yr hyn sy’n digwydd dros amser.
- Astudiaeth ansoddol yn cynnwys 101 o bobl, gan ddefnyddio cyfweliadau a grwpiau ffocws, i ymchwilio’n fanwl i farn pobl am eu hiechyd a’u lles yn y gwaith. Er enghraifft, gofynnwyd a yw pobl yn credu bod gwaith yn effeithio ar eu hiechyd, a beth sy’n digwydd yn y gwaith os bydd pobl yn mynd yn sâl, a sut y gellid gwella pethau yn eu barn hwy.
- Dadansoddiad o wybodaeth ddienw am ddemograffeg, hanes galwedigaethol, ac absenoldeb oherwydd salwch o setiau data er mwyn i ni allu edrych a yw pethau wedi newid dros amser.
- Casglu manylion am bolisïau ac ymyriadau hybu iechyd, cadw pobl mewn gwaith ac adsefydlu pobl mewn gwaith sydd eisoes ar waith yn y ddau sefydliad.
Drwy’r gwaith ymchwil hwn, rydym wedi gallu gwella ein dealltwriaeth o’r berthynas gymhleth rhwng iechyd, lles a gwaith, ac edrych ar y math o ymyriadau a allai fod yn ddefnyddiol er mwyn gwella ansawdd ein bywydau gwaith. Disgrifir rhai o’r canfyddiadau allweddol o Gam 2 isod.
- Mae nifer fawr o broblemau iechyd cyffredin ymysg y gweithlu, a nododd 86% o bobl bod ganddynt un cyflwr iechyd neu fwy dros gyfnod o fis. Mae nifer fawr o’r boblogaeth gyffredinol yn dioddef o broblemau iechyd cyffredin, ac nid yw hyn yn unigryw i’r sefydliadau hyn nac i’r rhanbarth hwn.
- Datgelodd yr arolwg ddiwylliant o ‘bresenoldeb’ ym Merthyr Tudful. Mae hyn yn golygu bod pobl yn parhau i fynd i’r gwaith er gwaethaf salwch yn hytrach na chymryd absenoldeb oherwydd salwch ac mae’n ffenomenon gydnabyddedig ledled y DU. Mae hyn yn amlygu cymhlethdod y berthynas rhwng iechyd a gwaith, ac yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi cymorth i bobl a chanddynt broblemau iechyd sy’n gallu aros yn y gwaith yn ogystal â’r rhai y mae angen iddynt aros gartref.
- Yn y cyfweliadau a’r grwpiau ffocws canfuwyd bod y ffordd y mae pobl yn edrych ar eu hamgylchedd gwaith yn hollbwysig os ydynt am aros yn y gwaith gyda phroblem iechyd. Roedd eu perthynas gyda chydweithwyr yn bwysig i’w lles ac roedd rôl rheolwyr yn allweddol o ran darparu cymorth a’u galluogi i gael mynediad i bolisïau a gwasanaethau a ddarperir gan y sefydliadau.
- Mae’r ymchwil yn dangos, er bod angen strategaethau ar gyfer gwella lles yn y gwaith yn y gymuned hon, bod nifer o’r heriau a nodwyd yn gyson ag astudiaethau a gynhaliwyd mewn gwahanol leoliadau a sefydliadau ledled y DU. Gellir lleihau nifer o’r problemau hyn drwy ddatblygu ymyriadau priodol yn y gweithle ac ymyriadau sy’n canolbwyntio ar waith a dyma’r hyn y gobeithiwn ei gyflawni yng Ngham 3 y fenter Lles yn y Gwaith.
Cam 3: Ymyriadau
Bydd Cam 3 yn ymwneud â datblygu ymyriadau sydd wedi’u cynllunio i wella ansawdd ein bywydau gwaith. Bydd y rhain yn seiliedig ar dystiolaeth o’r arferion gorau cyfredol a gasglwyd o lenyddiaeth wyddonol, ac ar ganfyddiadau Camau 1 a 2 y fenter Lles yn y Gwaith. Byddwn yn canolbwyntio ar ymyriadau a fydd yn ei gwneud yn haws i bobl aros yn y gwaith neu ddychwelyd i’r gwaith os byddant wedi bod i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch, gan y gall colli gwaith oherwydd salwch fod yn andwyol i iechyd ac ansawdd bywyd.
Mae Camau 1 a 2 yn dangos pwysigrwydd darparu’r cymorth priodol i bobl yn y gwaith, a bod cryn botensial i gyflwyno ymyriadau llwyddiannus ar sawl lefel a fydd yn canolbwyntio ar yr unigolyn, sefydliadau, gweithwyr iechyd proffesiynol a/neu’r cyhoedd yng nghymuned Merthyr a thu hwnt.

