
Lles yn y Gwaith: Deall y berthynas rhwng iechyd, lles a gwaith
Amdanon ni WiW
Cyflwyniad
Mae gwaith yn rhan fawr o’n bywydau bob dydd, ac mae’n ail i gysgu o ran yr amser a dreuliwn ar weithgareddau bob dydd yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2005). Ond sut mae ein gwaith yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles?
Yn ystod 2007 ac ar ddechrau 2008 gwahoddwyd staff dau o’r cyflogwyr mwyaf ym Merthyr Tudful - y Cyngor Bwrdeistref Sirol ac Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Morgannwg - i gymryd rhan yn y prosiect drwy gwblhau holiaduron, ymuno â grwpiau ffocws, neu gael eu cyfweld, er mwyn i ni gael darlun llawnach o iechyd a lles yn y gwaith. Mae’r cam hwn o’r prosiect wedi’i gwblhau bellach a gallwch ddarllen am y canfyddiadau drwy glicio yma.
Mae’r prosiect Lles yn y Gwaith yn cynnwys cyfres o astudiaethau a fydd yn ymchwilio i sut y mae gwaith yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles, ac i’r gwrthwyneb, er mwyn datblygu ffyrdd newydd o wella ansawdd ein bywydau gwaith. Ond er mwyn cyflawni hyn mae angen cymorth gan gymuned Merthyr Tudful arnom.Rhaglen Ymchwil
Crëwyd y bartneriaeth Lles yn y Gwaith i ymgymryd â rhaglen ymchwil a oedd yn canolbwyntio ar y berthynas gymhleth rhwng iechyd a gwaith ac i ymchwilio i’r ffyrdd y gall unigolion gael bywyd gwaith gwell ac iachach. Caiff y prosiect ei gynnal gan Brifysgolion Caerdydd, Keele ac Abertawe, a chaiff ei ariannu gan Ganolfan Iechyd Cymru.
Dechreuodd menter Lles yn y Gwaith ar ei rhaglen ymchwil yn nhref Merthyr Tudful, ond yn y dyfodol bwriedir ymestyn y prosiect ar draws Cymoedd y De a gweddill y DU. Caiff y rhaglen ei chwblhau mewn tri cham gwahanol:I gael rhagor o wybodaeth am bob un o’r tri cham cliciwch yma.
- Cam 1: Llunio proffil o gymuned Merthyr Tudful
- Cam 2: Ymchwilio i effaith iechyd ar waith drwy ddefnyddio arolygon, cyfweliadau a grwpiau ffocws
- Cam 3: Datblygu ymyriadau i gadw ac i adsefydlu pobl mewn gwaith
Meddai’r Athro Chris Main o Brifysgol Keele, aelod arweiniol o dîm ymchwil Lles yn y Gwaith, a chyd awdur 'The Back Book':
"Mae’r gwaith ymchwil arloesol hwn yn cael ei wneud ym Merthyr Tudful, ac mae ganddo fuddiannau a allai fod yn bellgyrhaeddol i unigolion, i gyflogwr ac i gymunedau yng Nghymru a ledled y DU.
Y Prosiect Lles yn y Gwaith yw’r cyntaf o’i fath yn y DU, ac mae’n defnyddio amrywiaeth o dechnegau i gasglu gwybodaeth fanwl am iechyd a lles yn y gwaith, ac i olrhain newidiadau dros amser. Mae’n cymryd ymagwedd newydd a chadarnhaol, ac yn ymchwilio i farn pobl am eu hiechyd, eu lles, a gwaith, a pha fath o welliannau yr hoffent eu gweld yn eu bywydau gwaith."
Bydd y rhan fwyaf ohonom yn dioddef o gyflwr iechyd a fydd yn effeithio ar ein bywydau bob dydd ar ryw adeg. Mae rhai o’r problemau iechyd mwyaf cyffredin sy’n gallu effeithio arnom yn y gwaith yn cynnwys iselder, poenau, annwyd a’r ffliw. Fel y dywed Dr Rhiannon Buck, Seicolegydd Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n uwch aelod o’r tîm Lles yn y Gwaith:
"Mae darganfod mwy am iechyd a gwaith yn bwysig i bob un ohonom, a gallai ymchwilio i ffyrdd newydd o wella ein hiechyd a’n lles yn y gwaith arwain at fuddiannau mawr i ni fel unigolion, ac i’n teuluoedd, ein cyflogwyr a’r economi leol a chenedlaethol.
Canfu gwaith ymchwil blaenorol a wnaed gan Ganolfan Unum ar gyfer Ymchwil Seicogymdeithasol ac Anabledd, fod gwaith yn gwneud lles i ni yn gyffredinol, ond mae rhai eithriadau. Mae tystiolaeth dda o fanteision parhau i weithio neu ddychwelyd i’r gwaith cyn gynted â phosibl ar ôl salwch, gan ei fod yn gwella’r broses adfer a chanlyniadau iechyd. Fodd bynnag, mae bod yn ddi-waith oherwydd salwch yn dod â llu o broblemau yn ei sgil, yn cynnwys colli incwm a chysylltiadau cymdeithasol, ac iechyd corfforol a meddyliol gwaeth. Yn wir, mae risg diweithdra hirdymor i iechyd cymaint ag ysmygu 10 pecyn o sigaréts y dydd.
Mae’r berthynas rhwng iechyd a gwaith yn gymhleth, ac mae ffactorau personol, diwylliannol a gwaith yn bwysig. Meddai’r Athro Ceri Phillips o Brifysgol Cymru Abertawe, sy’n Economegydd Iechyd ac yn un o’r prif ymchwilwyr yn y grŵp Lles yn y Gwaith:
"Gall pobl ymateb yn wahanol iawn i salwch, a gall swyddi amrywio’n sylweddol o ran eu natur a’u hansawdd. Mae’r lleoedd y mae pobl yn byw ynddynt hefyd yn bwysig; gall iechyd amrywio’n sylweddol rhwng gwahanol gymunedau yng Nghymru. Yn anffodus, nid yw’r pethau hyn yn annibynnol ar ei gilydd, ac mewn cymunedau lle y gwelwn iechyd gwael, mae hyn yn debygol o fynd law yn llaw ag anawsterau eraill, yn cynnwys llai o swyddi, a lefelau uwch o dlodi ymysg plant ac oedolion. Mae angen gwella iechyd, lles a chyfleoedd cyflogaeth yn yr ardaloedd hyn ar fyrder.”

